“Os nad oes gennych gartref, ystyrir eich bod yn ddigartref. Hyd yn oed os oes to uwch eich pen, gallwch ddal i fod yn ddigartref. Mae hyn oherwydd efallai nad oes gennych unrhyw hawliau i aros lle rydych yn byw neu efallai nad yw eich cartref yn addas ar eich cyfer”. Shelter Cymru
Enghreifftiau
- Os yw eich teulu neu ffrindiau wedi gofyn i chi adael yn dilyn chwaliad perthynas a chithau heb unman i fynd
- Os ydych o fewn 2 fis i ddiwedd eich tenantiaeth neu o dan fygythiad o gael eich troi allan
- Methu aros yn eich cartref presennol oherwydd cam-drin yn y cartref neu fath arall o gam-drin, materion fforddiadwyedd, neu oherwydd amodau byw gwael fel gorlenwi neu adfeiliad
- Cysgu ar y stryd
- Byw mewn llety ansefydlog neu dros dro
- Byw mewn hostel tymor byr, lloches nos, hostel mynediad uniongyrchol
- Byw mewn llety gwely a brecwast
- Symud yn aml rhwng perthnasau a ffrindiau
- Sgwatio