Gyda’r math hwn, cwmni neu sefydliad yw eich Landlord. Gall fod yn Gymdeithas Dai, sef Landlord Cymdeithasol, neu eich Cyngor lleol.
MANTEISION
- Mae’r rhenti fel arfer yn is na Rhentu Preifat
- Mae hyd eich tenantiaeth yn llawer hirach, hyd yn oed tenantiaeth gychwynnol
- Ni fydd y rhan fwyaf o Gynghorau a Chymdeithasau Tai yn gofyn am flaendal ymlaen llaw
- Gall y rhan fwyaf ddarparu cefnogaeth ychwanegol i’w tenantiaid os oes angen
ANFANTEISION
- Byddai angen i chi wneud cais am y math hwn o dai, er mwyn rhoi eich enw ar restr aros. Caiff ymgeiswyr eu gosod mewn ‘bandiau’ blaenoriaeth, ac yn dibynnu ar eich amgylchiadau, os ydych yn y band is, byddwch yn aros am dŷ yn llawer hirach na’r rhai yn y bandiau uwch.
- Mae yna lai o ddewis yn y mathau o dai sydd ar gael, fel fflatiau un ystafell ac weithiau dim ond ychydig iawn o lefydd sydd ar gael mewn ardaloedd penodol
- Prin iawn yw’r opsiynau rhannu tai yn y math hwn o dai
Sut i gael eiddo Cymdeithas Dai neu Dai Cyngor
Yn siroedd Conwy a Dinbych, dim ond unwaith sydd rhaid i chi wneud cais drwy SARTH (Llwybr Mynediad Sengl i Dai). Mae SARTH yn bwynt cyswllt unigol ar gyfer yr holl opsiynau tai cymdeithasol yn eich Sir. Byddwch yn cael cyfweliad Opsiynau Tai i weld beth yw’r dewis gorau i chi ar sail eich amgylchiadau. Mae’n bwysig cydnabod bod galw mawr am Eiddo Tai Cymdeithasol / Eiddo Cymdeithasau Tai. Gall hyn olygu diffyg argaeledd neu ddewis, ac amseroedd aros hir iawn, blynyddoedd mewn rhai achosion, cyn cael eiddo addas.
Os ydych yn Sir Conwy, cysylltwch â Datrysiadau Tai Conwy neu ffoniwch 0300 124 0050
Os ydych yn Sir Ddinbych, ebost housingregister@denbighshire.gov.uk neu ffoniwch 01824 712911