Lle byddech yn byw mewn tŷ dipyn mwy, ond dim ond yn rhentu un ystafell wely, ac fel arfer yn rhannu cegin, ystafell ymolchi a mannau byw gyda phobl eraill.
Mae Landlordiaid sy’n rhentu eiddo a rennir fel arfer yn Landlordiaid Preifat (gweler uchod) ac yn aml dyma’r dewis mwyaf fforddiadwy i bobl ifanc.
MANTEISION
- Mae’r rhenti fel arfer yn rhatach (gan eich bod yn rhentu un ystafell yn unig ac yn rhannu mannau cymunedol)
- Gall y rhenti yn aml gynnwys eich biliau cyfleustodau (Nwy, Trydan, Dŵr) ac weithiau y rhyngrwyd a Threth Cyngor.
ANFANTEISION
- Mae’n annhebygol y byddwch yn cael dewis pwy sy’n byw gyda chi
- Os ydych chi’n byw gyda’r Landlord (h.y. os ydych yn lletywr sy’n rhentu ystafell gan y person sy’n berchen y tŷ ac sydd hefyd yn byw yn y tŷ) mae gennych lai o hawliau (link to Shelter Cymru on tenancies?)
SUT I GAEL EIDDO A RENNIR
Gallwch ddod o hyd i’r math hwn o lety drwy edrych yn y papurau lleol, gwefannau fel (recommended by ccbc?) neu drwy asiantaeth gosodiadau.