MANTEISION
- Rhenti fforddiadwy iawn gan amlaf gyda’r holl filiau’n gynwysiedig (nwy, dŵr, trydan a’r rhyngrwyd)
- Eiddo / Ystafell i’w rhentu gan amlaf wedi’i dodrefnu’n llawn, felly dewis gwych os nad oes gennych eich dodrefn a’ch eitemau cartref eich hun eto
ANFANTEISION
- Os ydych yn byw yng nghartref y landlord ac yn rhannu lle byw / cyfleusterau cymunedol, bydd gennych lai o hawliau nag y byddech yn eu cael pe bae gennych denantiaeth yn eich enw chi eich hun. Er enghraifft, dim ond rhoi ‘rhybudd rhesymol’ sy’n ofynnol i’r landlord os oedd ef/hi am i chi adael y cartref, gall hyn fod yn gyfnod byr iawn o amser, yn dibynnu ar yr amgylchiadau a’r landlord.
- O bosib, byddai diffyg preifatrwydd yn broblem gan mai eich unig ‘le byw’ fyddai’r ystafell wely rydych yn ei rhentu, ond byddai hyn yn dibynnu’n llwyr ar eich landlord a gosodiad eich cartref.
SUT I DDOD O HYD I YSTAFELL I’W RHENTU
Gallwch ddod o hyd i’r math yma o lety drwy edrych yn y papur newydd lleol neu ar wefannau fel www.spareroom.co.uk www.gumtree.com www.roombuddies.co.uk